Amaethyddiaeth
Yma yn ICW, ni’n deall bod yr economi wledig a’r busnesau sy’n gweithredu o fewn cefn gwlad yn holl bwysig i lwyddiant eu rhanbarthau. Rydym yn darparu i fusnesau sy’n masnachu ymhob agwedd o fywyd cefn gwlad; o dyddynwyr, ffermydd teuluol i ystadau mawr – gallwn yswirio pob agwedd o’ch risg, a gwneud hynny mewn modd cyfeillgar dros fwrdd y gegin, fel dylai fod. Gallwn hefyd osod arallgyfeirio yn ei le y bydd eich busnes o bosib wedi dewis ei ddilyn, gyda’r bwriad o gynnig mor gystadleuol a chynhwysfawr a phosib. Bydd ICW/gwledig yn hapus i osod y math canlynol o yswiriant ar eich rhan.
> Ffermydd ac Ystadau
> Tyddynod
> Eiddo Gwerth Net Uchel
> Modur Busnes Fferm
> Offer a Pheriannau
> Ynni Adnewyddadwy
> Da Byw
> Ceffylau
> Cynghrair Saethu
> Arallgyfeiriadau megis Llety Gwyliau, Siopau Fferm, a Chontractio Amaethyddol