Croeso
Brocer yswiriant masnachol yng Ngorllewin Cymru yw Canolfan Yswiriant Cymru, cwmni uchelgeisiol ac egwyddorol sydd â chysylltiadau uniongyrchol â chalon y diwydiant yswiriant llewyrchus yn Llundain. Cwmni sy’n cynnig y gorau o ddau fyd o bosib? Ymfalchiwn yn y gwasanaeth personol a gynigiwn i bob cwsmer - gwasanaeth cyfeillgar, traddodiadol, wyneb i wyneb.
Wrth sgwrsio’n uniongyrchol â phob cwsmer, daw Canolfan Yswiriant Cymru i ddeall holl ofynion yswiriant a rheolaeth risg presennol eich busnes, yn ogystal â thrafod unrhyw ddyheadau sydd gennych er mwyn datblygu’r busnes ymhellach. Yn sgil hyn, gallwn ddarganfod y polisiiau sy’n cyd-fynd orau â’ch anghenion chi ac fe olyga hyn dawelwch meddwl i chithau fel cwsmeriaid ac i ninnau fel y brocer yswiriant.
Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni yw Evan Owen Rowlands. Mae ganddo brofiad helaeth o fewn y diwydiant yswiriant ar hyd ac ar led y DU. Ymfalchia Evan yn y ffaith ei fod yn medru dechrau’r cwmni yn ei dref enedigol, Aberystwyth, a theimla ei bod hi’n gyfle cyffrous i ddod â phrofiad o’r farchnad yn Llundain i ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru.